Project Description
Dan Y Wenallt, Theatr Soffa, Alternative Eisteddfod, at home
Date:
Friday August 7th
Online
Yn dilyn llwyddiant y perfformiad o Dan y Wenallt (addasiad T. James Jones i’r Gymraeg o Under Milk Wood gan Dylan Thomas) gan Span mewn cydweithrediad â Menter Iaith Sir Benfro a Chered, Menter Iaith Ceredigion, ym mis Mehefin, mae’n bleser mawr gennym gyhoeddi ein bod wedi derbyn gwahoddiad i berfformio Dan Y Wenallt Dan Glo fel rhan o’r Eisteddfod Amgen ar Awst 7fed 2020 am 8yh.
Fel y gwyddoch, mae’r Eisteddfod Genedlaethol, ein dathliad blynyddol o’n hiaith a’n diwylliant, yn teithio o le i le fel arfer ac yn cymryd lle yn y de a’r gogledd bob yn ail. Tregaron yng Ngheredigion fyddai wedi croesawu’r Eisteddfod ym mis Awst eleni ond yn lle hynny, ers mis Mai mae’r Eisteddfod wedi bod yn cynnal nifer o weithgareddau amgen ar-lein yn cynnwys anerchiadau, paneli trafod a digwyddiadau cerddorol. Am ragor o wybodaeth am y rhain ewch i’r wefan https://eisteddfod.wales/amgen
Mae Dan y Wenallt yn rhan o’r rhaglen o ddigwyddiadau amgen a bydd y perfformiad yn ystod wythnos yr Eisteddfod ei hun.
Synopsis
Drama radio yw Under Milk Wood gan y bardd Cymreig Dylan Thomas. Comisiynwyd y ddrama gan y BBC ac fe’i addaswyd yn ddiweddarach i lwyfan. Gosodir Under Milkwood yn Llaregyb (‘buggerall’ am nôl!) , tref fach glan môr ffuglennol. Addasiad Cymraeg T James Jones o’r ddrama yw Dan y Wenallt.
Mae’r ddrama yn adrodd hanes diwrnod ym mywyd y dref o oriau mân y breuddwydion hyd at y wawr a’r machlud. Mae “Llais” holl wybodus yn gwahodd y gynulleidfa i wrando fewn ar freuddwydion a meddyliau preswylwyr y pentref lle mae cymeriadau fel Capten Cat y morwr dall a’r Parch Eli Jenkins yn synfyfyrio ar eu bywydau ac ar y byd mawr a’i bethau. Mae Mrs. Ogmor-Pritchard yn poenydio ei dau ŵr marw, Dai Bara sy’n cadw dwy wraig yn breuddwydio am harems, Mr Puw yn breuddwydio am ladd ei wraig, Mae Rose Cottage yn breuddwydio am gwrdd a’r dyn delfrydol a Poli Gardis yn hiraethu am ei chariad marw, Wili Wi.
Mae’r dref yn dihuno ac wrth i ni ddeall sut mae eu teimladau yn effeithio ar eu gweithredoedd gallwn weld y cymeriadau yn mynd o gwmpas eu bywydau bob dydd.
Wedi ei llunio fel drama i leisiau mae hon yn ddrama sy’n addas iawn i’r cyfrwng mwy diddos a gynigir gan ofod digidol. Crëwyd y perfformiad digidol hwn o Dan Y Wenallt yn ystod mis Mai a mis Mehefin 2020 tra oedd y cast yn fyw trwy’r profiad o fod dan glo. Yn wir, fedrwn ni ddim meddwl am well drama i’w chynhyrchu o dan glo- cafodd Dylan Thomas ei hun ei gloi mewn ystafell i sicrhau ei fod yn cwblhau’r drafft cyntaf o’i ddrama oriau yn unig cyn i’r darlleniad cyntaf ei lwyfannu!
Gobeithio y byddwch yn mwynhau’r sioe!
Under Milk Wood © The Dylan Thomas Trust 1954
Following Span’s successful Under Milk Wood performance in collaboration with Menter Iaith Sir Benfro and Cered Menter Iaith Ceredigion in June we’re very pleased to share that we have been invited to perform Dan Y Wenallt Dan Glo the Welsh language adaptation of Dylan Thomas’ (adapted by T. James Jones)Under Milk Wood as part of the Eisteddfod Amgen (Alternative Eisteddfod) on 7th August 2020 at 8pm.
The National Eisteddfod is Wales’ annual celebration of culture and the Welsh language. The festival normally travels from place to place alternating between north and south Wales. The Eisteddfod would have been hosted by the town of Tregaron in Cerdigion this year had it gone ahead as usual in the first week of August. Instead since May 2020 the Eisteddfod has been hosting a number of alternative activities online including talks, panel discussions and music events. For more information about these please see the website:
https://eisteddfod.wales/amgen
Dan Y Wenallt has been programmed as part of these alternative sessions and will be performed during Eisteddfod week itself.
Synopsis
Under Milk Wood was originally a radio drama by the Welsh poet Dylan Thomas. The drama was commissioned by the BBC and later adapted for the stage. Under Milk Wood is set in Llaregyb (‘buggerall’ backwards), a fictional seaside town. Dan Y Wenallt is a Welsh langugae adaptation written by T. James Jones.
The drama relates a day in the life of the town from the small hours of dream time to the sunrise and sunset. The all knowing ‘voice’ invites the audience to listen in to the dreams and thoughts of the residents of the town where characters such as Capten Cat, the blind sea-captain and the Revd Eli Jenkins reflect on their lives and the ways of the world. Mrs. Ogmor-Pritchard torments her two dead husbands, Dai Bara keeps two women and dreams of harems, Mr Puw dreams of killing his wife, Mae Rose Cottage dreams of meeting the ideal man and Poli Gardis longs for her dead lover, Willi Wee.
The town awakens and as we come to understand how their feelings effect their actions we see the characters going about their daily business.
Conceived as a play for voices the drama lends itself to the more intimate medium that a digital space can create. This digital performance of Dan Y Wenallt was first created during May and June of 2020 whilst the cast were living through the experience of being in lockdown. Indeed, we can’t think of a better play to produce under lock down conditions – as its author Dylan Thomas was locked into a room to ensure that he finished the first draft of his play only hours before its first staged reading!
We hope you enjoy the show!
Under Milk Wood © The Dylan Thomas Trust 1954