Project Description
Dan Y Wenallt Dan Glo, Span Arts, Online
Date:
Friday June 19th
Online
Dan Y Wenallt Dan Glo – setlo i lawr ar gyfer ychydig o wallgofrwydd ganol haf wrth i Gelfyddydau Span gyflwyno nid un ond dau fersiwn o Dan y Wenallt, y clasur o ddrama gan Dylan Thomas gyda dau gast cymunedol, un yn perfformio Under Milk Wood yn y Saesneg gwreiddiol, a’r llall yn perfformio trosiad T. James Jones i’r Gymraeg.
Perfformir Dan y Wenallt yn fyw ar Nos Wener Fehefin 19eg am 8yh.
Perfformir Under Milk Wood y noson ganlynol, Nos Sadwrn Mehefin 20fed am 8yh
Os hoffech chi ymuno â ni ar gyfer y fersiwn Saesneg Under Milk Wood ar Nos Sadwrn 20fed Mehefin am 8yh – Archebwch Yma
Nid oes angen talu am y digwyddiad ond i gyrchu’r perfformiad ar-lein mae archebu’n hanfodol.
Rydym yn dod â’r theatr i’ch ystafell fyw ar gyfer perfformiad ar-lein byw unigryw.
Mae’r fenter ddigidol arbrofol newydd yma’n arddangos talentau lu gwirfoddolwyr Celfyddydau Span a’r gymuned ehangach; mae’n ganlyniad i brosiect Span Digidol sydd wedi bod yn peilota sut y gall technoleg ddigidol ei defnyddio’n greadigol i fynd i’r afael a materion fel llesiant cymdeithasol ac ynysu gwledig trwy syniadau arloesol megis theatr bellennig Theatr Soffa, yn defnyddio meddalwedd fideogynadledda i berfformio. Mae Celfyddydau Span yn gweithio ar y cyd gyda Menter Iaith Sir Benfro a Chered ar y prosiect yma i gyflwyno’r fersiwn Gymraeg, gyda phobl yn mewngofnodi o Dyddewi, Dinbych-y-pysgod, Talgarreg a Chrymych.
Gosodir Dan y Wenallt yn Llaregub (‘buggerall’ am nôl!) , tref fach glan môr ffuglennol. Yma mae cymeriadau fel Capten Cat y morwr dall, Poli Gardys a’r Parch Eli Jenkins yn synfyfyrio ar eu bywydau ac ar y byd mawr a’i bethau. Mae’n ddrama oddrychol yn adrodd hanes diwrnod ym mywyd y dref o oriau mân y breuddwydion hyd at y wawr a’r machlud.
Wedi ei llunio fel drama i leisiau mae hon yn ddrama sy’n addas iawn i’r cyfrwng mwy diddos a gynnigir gan ofod digidol. Yn wir, fedrwn ni ddim meddwl am well drama i’w chynhyrchu o dan glo- cafodd Dylan Thomas ei hun ei gloi mewn ystafell i sicrhau ei fod yn cwblhau’r drafft cyntaf o’i ddrama oriau yn unig cyn i’r darlleniad cyntaf ei lwyfannu!
Cefnogir y prosiect gan gronfa Gwella Sir Benfro cyllid a godwyd gan Drethi Ail Gartrefi Cyngor Sir Penfro, Cyngor Celfyddydau Cymru a Chronfa LEADER Arwain Sir Benfro a weinyddir gan Planed.
Mae archebu ar-lein yn gorffen am 6:00yh ar ddiwrnod y perfformiad.